Yn ymestyn o'r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, 'er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'. Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.
ISBN: | 9780140284768 |
Publication date: | 25th January 2007 |
Author: | John Davies |
Publisher: | Penguin Books Ltd |
Format: | Paperback |
Pagination: | 752 pages |
Genres: |
European history |